Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 25 Ionawr
2017
Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4078
Gweld Cofnod y Trafodion
Cyhoeddodd y Llywydd fod Manon Antoniazzi wedi’i phenodi yn Brif Weithredwr a Chlerc newydd y Cynulliad. Bydd yn dechrau yn y swydd ar ymddeoliad Claire Clancy ym mis Ebrill.
Dechreuodd yr eitem am 13.32
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.21
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 15.16.
Cyhoeddodd y Llywydd ganlyniad y balot deddfwriaethol a gynhaliwyd heddiw ac y caiff Dai Lloyd geisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Aelod ar Ddiogelu Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru.
Dechreuodd yr eitem am 15.16
Gwnaeth Vicki Howells ddatganiad er cof am Bernard Baldwin MBE.
Gwnaeth Russell George ddatganiad yn talu teyrnged i hanesydd adnabyddus o’r Drenewydd a Maer y Dref sydd wedi marw yn ddiweddar.
Dechreuodd yr eitem am 15.20
Dechreuodd yr eitem am 15.44
NDM6191
Julie Morgan
(Gogledd Caerdydd)
Dai
Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Rhun
ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Mark
Isherwood (Gogledd Cymru)
Hefin
David (Caerffili)
Jenny
Rathbone (Canol Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gynnal ymchwiliad cyhoeddus llawn i drychineb gwaed halogedig y 1970au a'r 1980au.
2. Yn nodi bod 70 o bobl yng Nghymru wedi marw o HIV a Hepatitis C a gawsant wrth gael gwaed halogedig neu gynnyrch gwaed halogedig a bod eraill yn dal i fyw gyda'r heintiau hyn.
3. Yn cydnabod bod perthnasau mewn galar yn byw gyda chanlyniadau'r drychineb hon.
4. Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi ymddiheuro ym mis Mawrth 2015 i bobl a gafodd eu heintio gan driniaeth â gwaed halogedig ac yn nodi ymhellach nad yw'r teuluoedd y mae hyn yn effeithio arnynt, wedi cael atebion llawn ynglŷn â'r rhesymau pam y caniatawyd i hyn ddigwydd a'u bod yn dal i ymgyrchu dros gyfiawnder.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.39
NDM6215 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r tueddiad rhyngwladol i werthuso dinasoedd ar feini prawf sy'n ymwneud â'r gallu i fyw ynddynt, pa mor wyrdd ydynt a'u cynaliadwyedd.
2. Yn credu bod dinasoedd ac ardaloedd trefol yn sbardun allweddol ar gyfer gwydnwch a ffyniant economaidd.
3. Yn cymeradwyo gwerth yr amcanion a'r strategaethau canlynol o ran hybu adnewyddu ac adfywio trefol:
a) mynediad at ofod glân ac agored:
b) argaeledd tai fforddiadwy;
c) rheoli traffig yn effeithiol a darparu trafnidiaeth gyhoeddus o safon uchel;
d) datblygu llwybrau trafnidiaeth llesol, gan gynnwys ailddynodi rhai llwybrau ar gyfer beicio a cherdded;
e) safonau uchel o ran ansawdd yr aer;
f) buddsoddi yn ansawdd dylunio adeiladau cyhoeddus a nodweddiadol;
g) cynnwys dinasyddion mewn cynlluniau gwella amwynderau, o ran dinas gyfan ac ar sail cymdogaeth; a
h) bod y cysyniad o ddinas-ranbarth yn ganolog i adfywio ardaloedd cefnwlad, fel Cymoedd y De.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.36
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6214 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod mai'r tro cyntaf, a'r unig dro yn aml, y daw cleifion i gysylltiad â'r GIG yw drwy bractis cyffredinol.
2. Yn gresynu bod practisau cyffredinol, er gwaethaf hyn, yn cael llai nag wyth y cant o'r gyllideb iechyd.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu practisau cyffredinol drwy roi buddsoddiad sylweddol o ran adnoddau, pobl a seilwaith.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
5 |
0 |
45 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod bod gan y rhan fwyaf o gleifion gyflyrau cronig y gellir eu rheoli orau yn y gymuned, ac mae hyn yn galw am ofal sylfaenol cryf, gydag ymarfer cyffredinol yn ganolog i hynny.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
20 |
0 |
31 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu'r cyfan ar ôl Pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod y graddau y mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau gofal sylfaenol ledled Cymru a'r ymrwymiad parhaus i weithio mewn partneriaeth â meddygon teulu a gweithwyr proffesiynol gofal sylfaenol eraill i wella gofal ar gyfer pobl ym mhob rhan o Gymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
24 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gan fod gwelliant 2 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 3, 4, 5 a 6 eu ddad-ddethol.
Gwelliant 7. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y rhan bwysig y mae gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn ei chwarae o ran sicrhau y caiff gofal sylfaenol ei ddarparu'n effeithiol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
1 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 7.
Gwelliant 8. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi data perfformiad rheolaidd ar gyfer gofal sylfaenol, gyda dangosyddion perfformiad a thargedau yn cael eu sefydlu mewn cydweithrediad â gweithwyr iechyd proffesiynol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
20 |
0 |
31 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 8.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6214 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod mai'r tro cyntaf, a'r unig dro yn aml, y daw cleifion i gysylltiad â'r GIG yw drwy bractis cyffredinol.
2. Yn cydnabod y graddau y mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau gofal sylfaenol ledled Cymru a'r ymrwymiad parhaus i weithio mewn partneriaeth â meddygon teulu a gweithwyr proffesiynol gofal sylfaenol eraill i wella gofal ar gyfer pobl ym mhob rhan o Gymru.
3. Yn cydnabod y rhan bwysig y mae gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn ei chwarae o ran sicrhau y caiff gofal sylfaenol ei ddarparu'n effeithiol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
12 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 18.23
Dechreuodd yr eitem am 18.27
NDM6213 Russell George (Sir Drefaldwyn)
Her ailgylchu i fusnesau a thrigolion yng Nghymru wledig.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.46
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 31 Ionawr 2017